Croeso
Mae Cyngor Cymuned Llanfair Dyffryn Clwyd yn cwmpasu ardaloedd Graigfechan, Pentrecelyn, Pentre Coch, Llanrhydd & Llanfair DC
Cyngor Cymuned Llanfair Dyffryn Clwyd
Mae Cyngor Cymuned Llanfair Dyffryn Clwyd yn cynnwys pentrefi Llanfair Dyffryn Clwyd, Graigfechan, Pentrecelyn, Pentre Coch ac yn estyn i Lanrhydd. Rydym yn gorff etholedig o 10 cynghorydd o wahanol gefndir a phrofiadau sy’n byw yn lleol.
Rydym yn cyfarfod yn fisol, oddieithr mis Awst, mewn canolfannau gwahanol ar draws yr ardal – sef Ysgol Llanfair, Ysgol Pentrecelyn, Canolfan Genus a Llysfasi. Cyhoeddir rhestr o gyfarfodydd a mannau cyfarfod tua blwyddyn ymlaenllaw, ac yn sicr rhoddwn o leiaf 3 mis o arwyddocad cyn unrhyw gyfarfod swyddogol.
Mae gennym gadeirydd etholedig, is-gadeirydd a chlerc sy’n gyfrifol am ohebiaeth, gweinyddiaeth a dyletswyddau ariannol. Mae croeso i unrhyw un o’r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfodydd. Yn ystod ein cyfarfodydd byddwn yn ymdrin a materion lleol, megis ffyrdd, llwybrau cyhoeddus ac adeiladu ac yn rhoi barn ar geisiadau cynllunio cyn danfon ein sylwadau i’r Cyngor Sir.
Ysgol Pentrecelyn Yr Elusendai, Llanfair DC Pentre Coch Graigfechan